Help i bobl a chymunedau

Gweld yr wybodaeth yma mewn fformat hygyrch ac mewn ieithoedd gwahanol

Fersiwn hawdd i'w ddarllen

 

Hunan-ynysu ac angen help lleol?

Taliad Cymorth Hunanynysu

Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf isod i gyd, gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Hunan ynysu £500:

  • Mae Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD) wedi dweud wrthych bod rhaid i chi hunanynysu ar, neu ar ôl 23 Hydref 2020
  • Rydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig
  • Nid yw'n bosib i chi weithio o adra a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
  • Rydych yn derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd:
    Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Bensiwn Credyd 

Mwy o wybodaeth a gwneud cais.

 

 

Grwpiau Cyfaill Lleol

Mae nifer o gymunedau lleol wedi gwneud trefniadau i helpu unigolion sy’n fregus oherwydd y COVID19. Gall y grwpiau cyfaill yma helpu drwy siopa, darparu pryd ar glud, danfon meddyginiaeth, neu i gael sgwrs ffôn gyfeillgar.  

Manylion y grwpiau cyfaill lleol ar fap

Os oes gennych wybodaeth sydd ar goll o’r map e-bostiwch cymorthcymunedol@gwynedd.llyw.cymru

 

Banciau bwyd

Banciau Bwyd yng Ngwynedd

Mae Banciau Bwyd ar draws Gwynedd yn darparu bocsys bwyd argyfwng i bobl a theuluoedd sydd mewn angen.

Os ydych chi angen y gwasanaeth cysylltwch a’r Banc Bwyd sy’n fwyaf lleol i chi.

Mae pob un o’r Banciau Bwyd isod yn dilyn canllawiau glendid presennol ac mae’n rhaid i bawb gadw pellter o 2 fetr oddi wrth ei gilydd drwy’r amser os gwelwch yn dda.  

 

Manylion Cyswllt:

Banc Bwyd Cadeirlan Bangor - Canolfan yr Esgobaeth, Cathedral Close, Bangor, LL57 1RL (y tu ôl i’r Eglwys Gadeiriol). Gweld manylion banc bwyd Cadeirlan Bangor 
Cyfeiriadau i’w hanfon drwy e-bost i  lesley.beckton@yahoo.co.uk cyn 1.30pm ar ein diwrnodau agor os gwelwch yn dda (Llun, Mercher, Gwener).

Banc Bwyd Arfon – Canolfan Gwyrfai, Lôn Cae Ffynnon, Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD. 
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â info@arfon.foodbank.org.uk neu ffoniwch 07586 053961.

 

Banc Bwyd De Gwynedd -

Y Bermo -  Revelation, Park Road, Y Bermo, LL42 1PH. 
Am wybodaeth bellach, ffoniwch 07973 914599 neu cysylltwch â info@southgwynedd.foodbank.org.uk

Neu ymwelwch â gwefan southgwynedd.foodbank.org.uk

 

Mae parseli bwyd brys ar gael i'w casglu o Borthmadog, Penrhyndeudraeth, Bala, Dolgellau a Thywyn – am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Ganolfan ar y rhif ffôn neu e-bost uchod.

 

Banc Bwyd Ffestiniog – Neuadd yr Eglwys, Heol yr Eglwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3HB (gyferbyn â Chanolfan Tan y Maen). Bydd angen mynd i swyddfa Dref Werdd i gael atgyfeiriad i’r Banc Bwyd.  Am wybodaeth bellach, ffoniwch 07435 290553 neu ymweld â'r dudalen Facebook.

 

Banc Bwyd Pwllheli – Eglwys San Pedr, Pwllheli, LL53 5DS.  Am wybodaeth bellach, cysylltwch â pwllhelifoodbank@gmail.com neu ffoniwch 07747 800320 / 07557 774359 neu ymweld â'r dudalen Facebook.

Mudiadau sy'n cynnig cymorth

Mudiadau sy’n cynnig cymorth

Oherwydd yr argyfwng mae nifer o’r mudiadau sy’n cynnig cymorth wedi gorfod addasu’r ffordd mae nhw’n gweithio.

Mae’r e.lyfryn yma’n nodi’r prif wasanaethau cymorth sydd ar gael gan fudiadau yn y 3ydd sector yn ystod y pandemig. Mae rhain yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, pobl hyn, pobl ifanc, gofalwyra gwasanaethau cyffredinol.

Cyfeirlyfr Gwasanaethau 3ydd Sector

Cymorth i deuluoedd

Hwb Teuluoedd Gwynedd

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwynedd 

 

Bydwragedd
Bangor 03000 850034
Caernarfon 01286 684 105
Dwyfor – Pwllheli 0779 6337433
Porthmadog 07790813059
Meirionnydd 07790 813 056  

 

Ymwelwyr Iechyd
Arfon (dalgylch Bethesda, Bangor, Caernarfon) – 03000 851 609 / 851 610
Blaenau Ffestiniog (dalgylch Meirionnydd) – 03000 853 489
Cilan (dalgylch Dwyfor) – 01758 701 152 

Cymorth i oedolion

Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth

Mae ein timau gofal cymdeithasol ar gael i gynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth dros y ffôn dros gyfnod yr argyfwng.

Os ydych chi’n oedolyn neu’n ofalwr sydd angen cymorth gallwch gysylltu â’ch tîm lleol. Cliciwch yma i weld y manylion cyswllt.

Gwasanaethau Oedolion

 

Gofalwyr di-dâl

Mudiadau sy’n cefnogi gofalwyr di-dal yng Ngwynedd:

 

Cyngor i rieni gyda phlant ag anghenion ychwanegol

Cyngor i ofalwyr di-dal   

Tai a digartrefedd

Os ydych chi’n denant i gymdeithas dai gallwch ganfod pa gymorth sydd ar gael ar eu gwefannau:

Adraadra.co.uk
Cynefin: grwpcynefin.org
Tai Gogledd Cymru: nwha.org.uk

 

Mae’r Grant Caledi i Denantiaid yn grant sy’n darparu cymorth ariannol i denantiaid yn y sector rhentu preifat, ac sydd ag ôl-ddyledion rhent sydd wedi cronni oherwydd COVID-19.

Mwy o wybodaeth yma: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Grant-Caledi-i-Denantiaid/Grant-Caledi-i-Denantiaid.aspx

 

Materion Digartrefedd

Os ydych yn poeni am neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ymwelwch â thudalen Digartrefedd

 

Shelter Cymru

Os ydych chi’n poeni am eich sefyllfa, ewch i we-fan Shelter i ganfod y cyngor tai diweddaraf: https://sheltercymru.org.uk/cy/get-advice/coronavirus/

Ffôn: 08000 495 495 

 

Y gymuned sipsi, Roma a theithwyr

Teithio Ymlaen - Gwasanaeth Cyngor i Gymru, ffoniwch: 0808 802 0025

www.travellingahead.org.uk/rights-advice/wales-advice-advocacy-service 

Cyngor ar arian, dyledion a budd-daliadau

Cyngor Ar Bopeth (CAB)

Os ydych yn poeni am, neu angen cyngor a gwybodaeth ar faterion ariannol, budd-daliadau, dyled, gwaith, tai neu eich hawliau fel defnyddwr gwasanaeth cysylltwch ar:

 

Mwy o wybodaeth am fudd-daliadau a grantiau

Budd-daliadau a grantiau

 

Os ydych yn byw yng Ngwynedd ac angen yr wybodaeth yma mewn fformat neu iaith arall cysylltwch hefo cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru