Mae'r cynllun Taliad Cymorth Hunanynysu wedi'i gynllunio i helpu pobl sy'n gweithio gydag incwm isel na allant weithio o gartref ac felly y byddant yn colli enillion pan ddywedir wrthynt i hunanynysu gan Wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (POD) GIG Cymru.
Darganfyddwch fwy a
sut i wneud cais am y cynllun Taliad Cymorth Hunanynysu.
Darllenwch ein
cwestiynau cyffredin i rieni a disgyblion. Rydym yn diweddaru'r rhain yn rheolaidd yn unol â’r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion.
Prydau Ysgol Am Ddim
Ar gyfer plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim, bydd y systemau e-dalebau a Parent Pay yn parhau ar waith hyd nes y daw'r ddarpariaeth arlwyo yn ôl i rym ym mhob ysgol.
Gwneud cais am le mewn ysgol
Am help a chyngor ar dderbyn i ysgolion, gan gynnwys cyflwyno cais hwyr, ewch i’r system ar-lein Derbyn i Ysgolion neu e-bostiwch
derbyniysgolion@caerdydd.gov.uk
Apeliadau
Mae ein tîm apeliadau’n parhau i broses apeliadau derbyn lleoedd ysgol. Os hoffech apelio, anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau i
apeliadauysgolion@caerdydd.gov.uk
Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau ailgylchu a gwastraff wedi dychwelyd i'r arfer.
Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau o hyd oherwydd COVID-19. Os ydym yn ymwybodol o unrhyw darfu ar gasgliadau ailgylchu a gwastraff ein nod fydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar-lein.
Os ydych yn cael trafferth talu’ch treth gyngor am eich bod ar incwm isel neu is, gallwch o bosib gael Gostyngiad y Dreth Gyngor.
Dysgwch ragor a gwnewch gais am ostyngiad.
Os ydych eisoes yn cael Gostyngiad y Dreth Gyngor gallwch
roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.
Os oes gennych bryderon am eich taliadau treth gyngor
cysylltwch â thîm y Dreth Gyngor ar ein ffurflen gyswllt ar-lein neu drwy e-bostio’r swyddfa yn
trethgyngor@caerdydd.gov.ukOherwydd y pandemig COVID-19 rydym yn cael nifer fawr o ymholiadau. Byddwch yn amyneddgar, byddwn yn cysylltu’n ôl gynted ag y gallwn. Mae’n ddrwg gennym os yw hyn yn anghyfleus.
Ardaloedd chwarae
Mae parciau a meysydd chwarae ar agor.
Mae cyrtiau chwaraeon awyr agored, campfeydd awyr agored, ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd a pharciau sglefrio ar agor.
Parc Cefn Onn
Mae'r maes parcio ym Mharc Cefn Onn ar agor i bob defnyddiwr.
Morglawdd Bae Caerdydd
Mae maes parcio Morglawdd Bae Caerdydd ar agor.
Caniateir llywio dyfroedd Bae Caerdydd.
Llyn Parc y Rhath
Mae system unffordd dros dro ar gyfer cerddwyr o amgylch Llyn Parc y Rhath ar waith saith diwrnod yr wythnos hyd nes y clywir yn wahanol.
Bydd traffig dwyffordd yn cael ei gynnal ar Wild Gardens Road, Lake Road East a Lake Road West, rhwng y Gerddi Gwyllt a'r promenâd. Bydd yr holl leoedd parcio i ymwelwyr yn cael eu gwaredu, yn agosaf at y Llyn, a fydd yn creu lle ychwanegol i feicwyr a loncwyr.
Pont y Gored Ddu
Mae Pont y Gored Ddu ar draws Afon Taf ar agor i'r cyhoedd.
Mae rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Caerdydd dal ar agor i'w ddefnyddio gan y cyhoedd. Bydd hyn yn parhau i gael ei adolygu a gall newid os nodir ardaloedd lle mae grwpiau o bobl yn ymgasglu ac yn mynd ati i anwybyddu mesurau a nodwyd gan y Llywodraeth.
Gofynnwn i bob aelod o'r cyhoedd ddilyn y gofynion o ran ymbellhau cymdeithasol a defnyddio eu llwybrau lleol yn hytrach na theithio i gefn gwlad yn ddiangen. Mae llawer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi tir preifat, ffermydd ac mewn rhai achosion maent yn agos i gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau, cadwch eich pellter oddi wrth dirfeddianwyr a pharhewch i ddilyn y cyfyngiadau a'r mesurau sydd yn eu lle i'ch diogelu chi ac eraill.
Ceir canllawiau penodol ar y Rheoliadau Coronafeirws mewn perthynas â llwybrau tramwy a thir mynediad, ynghyd â rhestr canoledig o ddolenni i gaeadau Awdurdodau unigol
yn y dolenni canlynolDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Yn sgil y cyngor a roddwyd gan y Llywodraeth, rydym wedi penderfynu cau nifer o leoliadau i'r cyhoedd yn gyfan gwbl:
Mae Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir ar gau fel lleoliadau ar gyfer llogi preifat a digwyddiadau preifat.
Mae'r lleoliadau canlynol a reolir gan Gyngor Caerdydd wedi ailagor erbyn hyn:
Bydd digwyddiadau sydd i fod i gael eu cynnal yn 2021 yn parhau i gael eu hadolygu a bydd penderfyniadau o ran p’un a fyddant yn cael eu cynnal yn cael eu gwneud yn seiliedig ar y cyngor diweddaraf gan y Llywodraeth ar yr adeg honno. I gael rhagor o wybodaeth
ewch i wefan Croeso Caerdydd.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Cofrestriadau genedigaethau newydd
I gofrestru genedigaeth bydd angen i chi drefnu apwyntiad i ymweld â Swyddfa Gofrestru Caerdydd.
Rhagor a wybodaeth am
gofrestri genedigaethau ar wefan Cofrestri CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Priodasau
Gall hyd at 10 o westeion bellach fynychu priodasau a phartneriaethau sifil a gynhelir yn yr ystafell seremonïau fach yn y Swyddfa Gofrestru, ond rhaid dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru/Iechyd Cyhoeddus Cymru a rheolau ymbellhau cymdeithasol bob amser.
Os oes gennych drefniadau ar y gweill gyda ni a hoffech drafod eich opsiynau, cysylltwch â ni ar 029 2087 1680/4 neu
seremoniau@caerdydd.gov.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Angladdau
Gallwch weld y cyngor a’r canllawiau diweddaraf ar angladdau, crematoria a mynwentydd ar
wefan Gwasasnaethau Profedigaeth Caerdydd.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Ein blaenoriaeth yw cadw tenantiaid a staff yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn ac mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod gwneud rhai newidiadau i wasanaethau. Mae'r newidiadau rydym wedi'u gwneud yn cydymffurfio â chanllawiau Iechyd y Cyhoedd a Llywodraeth Cymru.
Gweler y
Llythyr at Denantiaid oddi wrth Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (450kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Atgyweiriadau
Mae holl waith atgyweirio bellach yn cael ei gwblhau a gellir ei drefnu drwy ffonio 02920 872087.
Os oes angen i chi roi gwybod am waith trwsio, ond eich bod yn hunan-ynysu neu wedi profi'n bositif am Covid-19, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cysylltu â ni am y tro cyntaf.
Os oes gennych waith trwsio wedi'i drefnu a'ch bod yn profi'n bositif am Covid-19, neu os oes gennych symptomau cyn i ni ymweld, rhowch wybod i ni drwy ffonio 02920 872087.
Taliadau Rhent
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau’n gweithredu fel arfer, ond dylai Tenantiaid sy’n cael problemau â thalu rhent ddal i gysylltu â ni. Gall staff gynnig cyngor a chymorth a byddant yn parhau i helpu tenantiaid drwy’r cyfnod anodd hwn.
Materion yn ymwneud â Thenantiaeth ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith wedi dychwelyd i'r arfer. Mae ymweliadau cartref ac ymweliadau ag ardaloedd allanol yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae staff hefyd ar gael i gynorthwyo ar y ffôn a thrwy e-bost.
Glanhau Ardaloedd Cymunedol Fflatiau
Mae’r holl wasanaethau glanhau wedi dychwelyd i normal, er gallai fod adegau pan fo gwaith yn cael ei gwblhau’n arafach nag arfer oherwydd argaeledd adnoddau.
Cynnwys Tenantiaid
Mae rhai digwyddiadau bellach wedi ailddechrau. Gall grwpiau’n gallu cwrdd ar yr amod eu bod yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran faint o bobl sy'n gallu cwrdd a bod y lleoliad wedi cael asesiad risg.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Cynnwys Tenantiaid.
Symud Cartref
Mae ymweliadau yn cael eu cynnal yn rhithiwr. Pan fydd gwaith ar eiddo wedi’i gwblhau, caiff fideo ei anfon at yr ymgeisydd sydd wedi llofnodi ar gyfer yr eiddo i ddangos ba waith sydd wedi’i wneud.
Caiff cytundeb tenantiaeth a dogfennau perthnasol eraill eu cyflwyno a’u llofnodi’n ddigidol.
Ar ôl llofnodi cytundeb tenantiaeth, byddwn yn cysylltu â'r tenant i drafod telerau ac amodau ei denantiaeth, ynghyd â chynorthwyo gydag unrhyw geisiadau eraill – e.e. trefnu cyfleustodau neu gymorth cyrchu (os oes angen).
Rhoddir mynediad i allweddi ar y cam hwn.
Digartrefedd
Byddwn yn dal i weithio ar ein heiddo gwag ac yn helpu pobl ddigartref i symud allan o lety dros dro a hosteli.
Rydym ar agor rhwng 9-5 o ddydd Llun i ddydd Iau a 9 – 4:30pm dydd Gwener.
Newidiadau i Barcio a Theithio oherwydd COVID-19:
Parcio a Theithio y Dwyrain: Dydd Llun – dydd Sul.
Parcio a Theithio’r Gorllewin: Nid yw’r gwasanaeth yn rhedeg ar hyn o bryd.
Parcio a Theithio’r De: Nid yw’r gwasanaeth yn rhedeg ar hyn o bryd.