Hunanynysu
Os ydych yn hunanynysu ac angen help gyda siopa neu ddanfoniadau bwyd.
Os nad oes gennych arian nac unrhyw un i'ch helpu, ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.
Ar ol eich ymweliad, bydd ein tîm Cyngor Ariannol yn cysylltu â chi i drafod eich amgylchiadau a'r help a'r gefnogaeth y gallwn eu cynnig.
Mae'r ddarpariaeth yn dal i flaenoriaethu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn hosteli i'r digartref a gwasanaethau Allgymorth) a’r gwasanaethau brys. Fodd bynnag, bydd y trefniadau nawr yn ceisio cwmpasu categorïau ehangach o weithwyr allweddol hefyd, lle bo modd.
Er mwyn darparu ar gyfer y niferoedd ychwanegol ac er mwyn cynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol, mae nifer y lleoliadau hyn bellach wedi eu cynyddu i 19. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gynradd, uwchradd ac arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Er mwyn sicrhau bod trosglwyddiad COVID-19 yn cael ei arafu neu ei atal, mae gweithwyr allweddol a theuluoedd dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael gwybod y dylid ond defnyddio’r ddarpariaeth ysgolion pan nad oes unrhyw fath arall o gymorth gofal plant ar gael, a phan fo’n bosib, dylid gofalu am blant gartref.
Bydd gofyn i weithwyr allweddol yng nghategorïau Gweithwyr Allweddol eraill Llywodraeth Cymru, gadarnhau gyda’u cyflogwyr bod eu rôl benodol yn ‘hanfodol’ i barhad busnes o ran darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, er mwyn bod yn gymwys i gael darpariaeth yn seiliedig ar hybiau.
Gofal plant cyn ysgol
Mae nifer o leoliadau preifat, annibynnol a gwirfoddol yn dal i weithredu sydd â lleoedd ar gyfer plant cyn oed ysgol.
Dylai gweithwyr allweddol o'r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu wasanaethau brys, nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall ar gyfer gofal plant, gysylltu â’r Porth i Deuluoedd drwy ffonio 03000 133 133 neu e-bostio
cyswlltFAS@caerdydd.gov.uk
Atgoffir rhieni neu ofalwyr sy'n defnyddio'r ddarpariaeth i ddilyn y canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol wrth ollwng a chasglu eu plant. Gofynnwn i chi aros dau fetr oddi wrth staff ac aelodau eraill o'r cyhoedd.
Mae taleb Prydau Ysgol Am Ddim ar gael am blant a chynghorir i hunanynysu gan ei ysgol neu gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, (POD) i helpu rhieni neu gofalwr prynu bwyd tra bod nhw ddim yn yr ysgol.
Bydd yr ysgol yn gadael i ni wybod y plant fydd yn hunanynysu ac sydd angen taleb.
Fe fydd taleb Prydau Ysgol Am Ddim yn cael ei danfon i bob plentyn a fydda yn cael Prydau Ysgol Am Ddim fel arfer yn ysgol, yn ystod gwyliau Nadolig a Phasg.
Gwnewch cais am Prydau Ysgol am Ddim ar-lein